Grwpiau Trawsbleidiol yn y Senedd - Ymgynghoriad
1. Grwpiau Trawsbleidiol yw grwpiau wedi’u sefydlu gan Aelodau o’r Senedd mewn perthynas ag unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd gyda chynrychiolwyr o o leiaf dri grŵp plaid a gynrychiolir yn y Senedd. Gall aelodau allanol ymuno hefyd yn ôl disgresiwn y grŵp. Mae grwpiau o’r fath yn cael eu cydnabod yn eang fel rhan werthfawr o’r broses ddemocrataidd. Maent yn cynnig fforwm i Aelodau o wahanol grwpiau gwleidyddol drafod buddiannau a rennir mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd.
2. Nid yw'r grwpiau hyn wedi'u rhwymo gan Reolau Sefydlog, ac nid oes ganddynt unrhyw rôl ffurfiol ym musnes y Senedd. Fodd bynnag yn 2013, cafodd cyfres o Reolau ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol (atodiad A) eu mabwysiadu gan y Senedd. Yn ogystal â nodi gofynion Aelodaeth (fel uchod) mae’r rheolau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i grwpiau:
-ethol Cadeirydd ac ysgrifennydd, ac mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn Aelod o’r Senedd a chaiff yr ysgrifennydd fod yn Aelod, yn staff cymorth Aelod neu’n unigolyn o’r tu allan i’r Senedd; a
chyflwyno gwybodaeth berthnasol o fewn amserlenni penodedig i'r Swyddfa Gyflwyno gan gynnwys rhybudd ymlaen llaw o gyfarfodydd, cofnodion, ac adroddiad blynyddol a datganiad ariannol o fewn 12 mis i'r adeg y cofrestrwyd y grŵp am y tro cyntaf.
3. Gallai methu â chydymffurfio, neu dorri’r rheolau’n ymwneud â Grwpiau Trawsbleidiol yn cofrestru, ethol swydd-ddeiliaid, cynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol neu ddarparu gwybodaeth sy’n ofynnol yn ôl y rheolau, arwain at ddileu cydnabyddiaeth y grŵp ar awdurdod y Llywydd (byddai’r grŵp yn cael ei ddadgofrestru a’i holl fanylion yn cael eu tynnu oddi ar wefan y Senedd).
4. Mae gan bob Aelod o’r Senedd sy’n aelod o Grŵp Trawsbleidiol gyfrifoldeb i sicrhau bod y grŵp yn ymddwyn yn briodol. Fodd bynnag, Cadeirydd y grŵp fydd yn bennaf gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau.
5. Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno i adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol i ystyried a yw’r rheolau yn darparu canllawiau digonol, a ydynt yn glir, yn hygyrch ac yn dryloyw i randdeiliaid allweddol ac a ydynt yn parhau i fod yn addas i’r diben yn ystod y Chweched Senedd.
6. Mae’r Pwyllgor yn gofyn am ymatebion i’r cwestiynau a ganlyn:
· Beth yw eich barn am y trefniadau ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol yn y Senedd?
· A oes gennych unrhyw bryderon neu ydych wedi cael unrhyw broblemau â'r trefniadau? Os felly, beth?
· A yw’r rheolau presennol yn adlewyrchu swyddogaethau a chyfrifoldebau Grwpiau Trawsbleidiol, fel yr ydych yn eu deall?
· A oes unrhyw gamau pellach y gellid eu cymryd i wella tryloywder ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol? Os felly, beth?